Papur Tystiolaeth - y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Rhagarweiniad

Pwrpas y papur hwn yw rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o'r gwersi a ddysgwyd yn sgil Cymunedau yn Gyntaf. 

Beth a fu’n llwyddiant a beth na fu’n llwyddiant i’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.

Er bod tystiolaeth o rywfaint o lwyddiant ar lefel unigolion, nid yw Cymunedau yn Gyntaf wedi cael effaith ar lefelau tlodi cyffredinol yng Nghymru ac mae'r rhain wedi aros yn ystyfnig o uchel.

Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull traws-lywodraeth o fynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd tlodi, gan gynnwys canolbwyntio ar sicrhau rhagor o gyfleoedd i gael gwaith a gwella sgiliau. Mae blaenoriaethau fy mhortffolio i yn cefnogi'r dull Llywodraeth-gyfan hwn, gan ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, cyflogadwyedd a grymuso cymunedau; roedd cryn gefnogaeth o blaid y dull newydd hwn yn yr ymgysylltu helaeth diweddar #Trafod Cymunedau.  Ar ôl yr ymgysylltu hwn, ac fel rhan o'm penderfyniad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben fesul tipyn, cyhoeddais amrywiaeth o gyllid ychwanegol i liniaru rhai o'r heriau posibl.  Roedd hyn yn cynnwys y 70% o gyllid ar gyfer cyfnod pontio deuddeg mis; cronfa Etifeddol o £6m i fwrw ymlaen ag agweddau llwyddiannus ar y rhaglen; £4m o arian cyfalaf ychwanegol i helpu i amddiffyn asedau cymunedol gwerthfawr; a buddsoddiad ychwanegol o £12m i ymestyn y cymorth ar gyfer cyflogadwyedd yng nghyswllt ein rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn.

Rwy'n annog cyrff cyhoeddus yn daer i gydweithio fel rhan o'r dull newydd ac ystyried cynnal y prosiectau Cymunedau yn Gyntaf hynny y mae cymunedau'n rhoi gwerth arnynt ac sy'n gyson â'u blaenoriaethau ac yn help i'w gwireddu. Mae fy swyddogion wrthi'n cynnal trafodaethau cynhyrchiol ag adrannau eraill o Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dull cadarn, cydgysylltiedig ar waith yn ystod y flwyddyn bontio, gan weithio tuag at ein dull traws-lywodraeth newydd o feithrin cymunedau cydnerth.

Yn 2009, gwelodd Swyddfa Archwilio Cymru fod tyndra rhwng pennu cyfeiriad clir ar gyfer rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a chaniatáu i bob partneriaeth gymunedol bennu ei thrywydd ei hun.  Canfu'r Swyddfa fod pryderon yn lleol ynghylch y gofynion afrealistig ar bartneriaethau. Nid oedd gan lawer ohonynt y sgiliau na'r gallu i wireddu canlyniadau caletach megis y rhai sy'n berthnasol i swyddi a thlodi plant.

Pan werthuswyd y Rhaglen a oedd ar waith cyn 2012 gan Amion Consulting Ltd ac Old Bell, adroddwyd, er bod mwy o amddifadedd yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf nag yng ngweddill Cymru, bod eu hamgylchiadau’n gyffredinol wedi gwella, er gwaethaf effaith yr amodau economaidd ar y pryd.  Y farn oedd bod y bwlch wedi cau rhywfaint rhwng yr ardaloedd hyn a gweddill y wlad ar sail nifer o ddangosyddion, gan gynnwys diweithdra, gweithgaredd economaidd, cyfraddau cyflogaeth a lefelau cyrhaeddiad.  Roedd yn cydnabod, er bod pethau wedi gwella, nad oedd modd llunio casgliadau am yr hyn a fyddai wedi digwydd pe na bai’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi digwydd. Y casgliad oedd, o ran diweithdra, bod effaith gadarnhaol, ychwanegol ac effaith y gellid ei phriodoli i'w gweld yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, er mai cyfyngedig oedd yr effaith honno.

Roedd canfyddiadau'r gwerthusiadau hyn a'r ymgynghoriad 'Cymunedau yn Gyntaf - Y Dyfodol' yn 2011, yn sail ar gyfer cynllun y rhaglen bresennol a dull sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau.

Yn ystod y gwerthusiad diweddaraf ar Gymunedau yn Gyntaf gan Ipsos Mori a Wavehill Consulting, tynnwyd sylw at nifer o elfennau cadarnhaol. Un o'r rhain oedd bod cyd-destun polisi cryf i'r rhaglen ar y pryd a'i bod yn amlwg sut yr oedd ei nodau'n cydweddu ag agenda trechu tlodi ehangach Llywodraeth Cymru.  Y casgliad oedd bod y newidiadau i'r rhaglen yn 2012 wedi golygu bod gwell cyfle i’r rhaglen gyflawni ei nodau'n llwyddiannus a bod y newidiadau hyn wedi mynd i'r afael â’r heriau a welwyd mewn fersiynau blaenorol ohoni. Serch hynny, cyfeiriwyd at nifer o wendidau a heriau.  Roedd cael gafael ar ddata monitro cadarn, cyson am berfformiad yn her allweddol a pharhaus. Nid oedd gan bob Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yr arbenigedd i gynllunio prosesau monitro effeithiol ac roedd y dulliau a ddefnyddid yn amrywio'n fawr. Roedd y gwerthusiad yn dweud y gellid gwella swyddogaeth llywodraethu'r Cyrff Cyflawni Arweiniol, gan ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb am symud cyllidebau i sicrhau bod dyraniadau ariannu'n cael eu defnyddio a'u cyfeirio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Nodwyd bod Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau mewn rhai ardaloedd yn annog targedu'r hawsaf eu cyrraedd yn hytrach na chyflawni'r gwir nod, sef targedu'r rhai anoddaf eu cyrraedd.                         

Er bod camau wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r problemau hyn, roedd gwendidau i'w gweld o hyd. Yn anad dim, roedd y gwerthusiad yn gywir wrth ddangos nad oedd (ac nad yw) hanfod athroniaeth y rhaglen - sef bod modd gwella nodweddion ardal drwy ddylanwadu ar ganlyniadau ar lefel unigolion - wedi'i brofi. 

Roedd yr adborth yn sgil y cyfnod ymgysylltu a gynhaliwyd yn gynharach eleni'n dangos y llu o ffyrdd y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod o fudd i unigolion ac rwy'n ddiolchgar i weithlu Cymunedau yn Gyntaf am y gwahaniaeth y maent wedi'i wneud i filoedd o bobl a'u cymunedau.  Fy nod yw dwysáu ein hymdrechion i roi i bobl yr arfau sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt gael cyfran decach o ffyniant y genedl hon. Yng nghanol hyn oll, rhaid sicrhau bod addewid o swyddi da a sicr.  Felly, er fy mod yn awyddus i gynnal etifeddiaeth werthfawr Cymunedau yn Gyntaf, rwyf am fwrw ymlaen â'n dull newydd o sicrhau cymunedau cydnerth.

Yn ystod y flwyddyn bontio hon, byddwn yn cynnal ymarfer gwersi a ddysgwyd fel sail i’r ffordd newydd o weithio.

Sut y bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa brosiectau a fydd yn parhau i gael cyllid ar ôl mis Mehefin 2017.

Er mai gwaith y Cyrff Cyflawni Arweiniol yw gwneud y penderfyniadau hyn ar lefel leol ar sail anghenion a blaenoriaethau lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau Pontio a Strategaeth i Gyrff Cyflawni Arweiniol sy'n esbonio'r hyn a ddisgwylir pan fydd y Cyrff hyn yn mynd ati i wneud penderfyniadau wrth ddyrannu cyllidebau unigol Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer 2017-18.  

Mae'r canllawiau'n ei gwneud yn glir y dylai'r cynlluniau pontio ar gyfer 2017-18 adlewyrchu'r asesiad perthnasol o lesiant lleol ac y dylai fod yn gyson â'r 5 ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  At hynny, dylai cymunedau a Byrddau Gwasanaethau Lleol chwarae rhan allweddol yn y broses gynllunio.

Mae'r Cyrff Cyflawni Arweiniol wedi elwa o gael proses gynllunio dau gam.   Cyflwynwyd bras gynlluniau ar gyfer y cyfnod pontio ddiwedd mis Mawrth 2017, ac mae'r rhain wedi llywio ymagwedd Llywodraeth Cymru at y cyfnod pontio, yr amserlenni a'r mathau o brosiectau a fydd yn parhau yn ystod y flwyddyn. Disgwylir i'r cynlluniau pontio terfynol gael eu cyflwyno ddiwedd mis Mai.

Mae'r broses bontio wedi caniatáu hyblygrwydd i'r Cyrff Cyflawni Arweiniol benderfynu sut y byddant yn proffilio'u cyllid ar gyfer 2017-18 i'w helpu i gyflawni eu blaenoriaethau lleol.  Serch hynny, cydnabyddir mai dogfennau byw yw'r cynlluniau pontio ac yn wir y gallant newid yn ystod y flwyddyn.  Mae'r swyddogion wedi bod, a byddant yn parhau i fod, mewn cysylltiad agos â'r holl Gyrff Cyflawni Arweiniol yn ystod y cyfnod pontio.

 

Sut y bydd gwahanol raglenni lleihau tlodi yn newid ar ôl i Gymunedau yn Gyntaf ddod i ben.

Ymrwymiad craidd y Llywodraeth wrth fwrw ymlaen yw buddsoddi yn ffyniant ein cenedl; creu swyddi a phrentisiaethau, treialu prosiectau megis 'Gwell Swyddi'n Nes Gartref' a'r cynnig gofal plant i rieni sy'n gweithio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio o'r newydd ar ei dull o drechu tlodi, gan roi pwyslais o'r newydd ar gyflogadwyedd ac ymyrryd yn gynnar. Roedd hyn yn ategu’r penderfyniad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn raddol ac, yn hytrach, i arddel dull newydd o greu cymunedau cydnerth sy'n gallu ffynnu a llwyddo. Gyda'r ffocws newydd hwn ar waith, mae'r modelau cyflawni presennol ar gyfer rhaglenni lliniaru tlodi wedi'u hadolygu i sicrhau eu bod yn ategu’r dull Llywodraeth gyfan sy'n datblygu er mwyn trechu tlodi ac allgau cymdeithasol drwy gynyddu cyfranogiad yn y farchnad lafur a helpu pobl i gael gafael ar gyflogaeth gynaliadwy.

Mae £12m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i ymestyn rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn. Mae'r ddwy raglen yn helpu'r rhai sydd bellaf oddi wrth fyd gwaith ac sy'n wynebau rhwystrau lu rhag symud i swydd gynaliadwy.  Yn y gorffennol, mae Cymunedau am Waith, yn ogystal â rhaglenni trechu tlodi eraill o bosibl wedi dibynnu ar ôl troed Cymunedau yn Gyntaf a'i seilwaith. Drwy symud oddi wrth gyfyngiadau daearyddol Cymunedau yn Gyntaf, bydd y dull newydd yn cryfhau eto'r gefnogaeth a roddir i'r bobl hynny ym mhob cwr o Gymru sy'n aml yn wynebu llu o rwystrau sylweddol a’r rheini’n eu hatal rhag manteisio ar hyfforddiant neu gyfleoedd i gael gwaith.  Bydd y rhaglen estynedig yn canolbwyntio'n benodol ar aelwydydd heb waith, y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir a'r rhai sy’n economaidd anweithgar.

 

O 1 Ebrill 2017 ymlaen, bydd y prosiectau strategol a gomisiynir drwy’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn canolbwyntio o'r newydd ar ddarparu cymorth rhianta a chymorth i bobl ifanc. Penderfynwyd hyn er mwyn sicrhau bod Teuluoedd yn Gyntaf mewn gwell sefyllfa i allu helpu teuluoedd i feithrin cydnerthedd a hyder a'u harfogi â'r sgiliau i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a chynaliadwy yn yr hirdymor. Ni fydd dim newid i elfennau pwysig eraill y rhaglen, gan gynnwys y dull cefnogi teuluoedd a ddefnyddir gan y Tîm o Amgylch y Teulu.